Press releases
Am yr holl de yn Tsieina: Rhaid i'r prif weindog drafod problemau hawliau dynol gyda phartneriaid masnach
Wrth i’r Prif Weinidog ymweld â Tsieina, mae Amnest Rhyngwladol yn mynnu ei fod yn trafod problemau hawliau dynol gyda’i bartneriaid yno gan amlygu eu hymgyrch yn defnyddio Te Tsieina.
Mewn gwrthgyferbyniad i Weinidogion yr Alban, sydd wedi cynnwys problemau hawliau dynol yn glir yn eu hymgysylltiad â Tsieina, mae cyn Lywodraethau Cymru wedi ceisio datblygu cysylltiadau masnach heb fynd i’r afael â phryderon difrifol hawliau dynol.
Drwy weithio gyda Waterloo Tea yng Nghaerdydd, mae Amnest Rhyngwladol wedi brandio pecynnau o de Yunnan White rhagorol fel Amnestea i’w gyflenwi i Weinidogion ac i Aelodau’r Cynulliad.
Dywed Cathy Owens, Cyfarwyddwr Rhaglen Cymru:
“Mae ein cysylltiadau masnach gyda Tsieina wedi cyfoethogi ein diwylliant ynghyd â chynyddu ein hallforion a rhaid i ni sicrhau ein bod, yn gyfnewid am hyn, yn manteisio ar bob cyfle posibl i rannu ein parch at hawliau dynol ac yn mynnu bod yr awdurdodau yn Tsieina yn mynd i’r afael ag ymosodiadau erchyll ar ryddid.”
“Yn y gorffennol, rydym wedi cyhoeddi coflen o storïau dyddiol am gam-ddefnyddio a chamdriniaeth yn Chongqing, talaith y mae gennym gytundeb masnach a diwylliant gyda hi.
Mae Llywodraethau Cymru yn y gorffennol wedi gwrthod ystyried y mater gan ddadlau nad yw
cysylltiadau tramor wedi’u datganoli. Ond mae’r Prif Weinidog yn Tsieina oherwydd bod cysylltiadau economaidd a diwylliannol wedi’u datganol. Wrth i’n gweinyddu datganoledig aeddfedu a datblygu, ni all barhau i weithredu mewn swigen heb werth gan anwybyddu’r troseddu difrifol yn erbyn hawliau mewn gwledydd lle mae Llywodraeth Cymru’n gwario miliynau mewn buddsoddiadau.
Dywed Jenny Rathbone, AC Canol Caerdydd:
“Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn ystyried hawliau dinasyddion Tsieina ynghyd â ffyniant economaidd. Gwn fod gan y Prif Weinidog ddiddordeb arbennig mewn datblygu cysylltiadau economaidd a diwylliannol gyda Tsieina. Rydw i’n rhannu hyn. Rhaid i’w ymweliad â’r wlad hefyd fod yn gyfle gwych i wthio achos gwell hawliau dynol.”
“Mae Liu Xiaobo, enillydd y Wobr Nobel yn dal yn y carchar a rhoddwyd taw ar nifer o feirniaid mewnol eraill. Mae llawer o gyfrifoldeb yn gorffwys gyda’r gymuned ryngwladol ac arweinwyr sy’n ymweld i ddylanwadu ar awdurdodau Tsieina i anrhydeddu eu haddewidion am ddiwygio hawliau
dynol.”
Dywedodd Kasim Ali, Perchennog Waterloo Tea:
“Rydyn ni’n hapus iawn i weithio gydag Amnest Rhyngwladol a Jenny Rathbone i godi materion hawliau dynol yn Tsieina.”
“Mae’r te rydyn ni wedi’i awgrymu’n cael ei wneud gan bobl o leiafrifoedd ethnig Dai, Lahu a Bulang yn Yunnan, sydd wedi tyfu te o goed hen iawn am dros 1300 mlynedd. Mae’n de a ardystiwyd fel un Masnach Deg sy’n cefnogi gwell bywyd i deuluoedd Yunnan drwy brisiau teg a datblygu cymunedau.”
“Sefydlwyd y Cynulliad gyda hawliau dynol wedi’i ysgrifennu fel rhan o’i DNA. Nid dim ond am hawliau dynol pobl sy’n byw yng Nghymru y dylai hyn fod. Rydyn ni’n rhannu’r un hawliau dynol â phobl Sgwâr Tahrir a Sgwâr Tiananmen.”