Press releases
Amnest Rhyngwladol Cymru yn cefnogi siaradwyr cyhoeddus yr Urdd
Am y tro cyntaf bydd Amnest Rhyngwladol Cymru yn gweithio gydag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i gefnogi cystadlaethau siarad cyhoeddus ar y maes. Cynhelir rownd derfynol cystadlaethau siarad cyhoeddus heddiw, dydd Gwener, 8 Mehefin 2012 ym mhafiliwn Annedd Wen ar faes Eisteddfod yr Urdd yng Nglynllifon, Caernarfon ger Gwynedd.
Yn dilyn wythnosau o deithio hyd a lled Cymru yn gwrando ar gystadleuwyr, bydd gwaith y darlledwr a’r amgylcheddwr, Dei Tomos, fel beirniad yn dod i ben heddiw. Dywed ei fod wedi mwynhau’r profiad yn arw.
Yn y categori blwyddyn 10 i 19 oed, bydd tri thîm yn brwydro am y brif wobr: Ysgol y Preseli, Crymych, Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst ac Ysgol Brynrefail, Llanrug.
Yn y grŵp oedran hŷn, 14 i 25 oed, tair Aelwyd fydd yn y rownd derfynol, Aelwyd Pantycelyn, Aberystwyth; Aelwyd Hafodwenog, Caerfyrddin ac Aelwyd Coleg Meirion Dwyfor, Pwllheli.
Mae’r timau wedi bod yn trafod nifer helaeth o bynciau wrth gymryd rhan yn y rowndiau cynharach. Yn eu mysg, roedd cwestiynau fel: mae ysgolion bach yn faich ar y system addysg – trafodwch; mae’n dderbyniol i athletwyr o Gymru gystadlu ar ran Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd, trafodwch; ynni niwclear yw’r unig ffordd hyfyw o gynhyrchu ynni ym Mhrydain, trafodwch; mae gor-yfed ar ei waethaf yng Nghymru, gyda phobl ifanc yn mynd allan i feddwi’n wirion yn hytrach na mwynhau a chymdeithasu, trafodwch.
Bydd y ddau dîm buddugol yn cael y cyfle i ymweld â Phencadlys Amnest Rhyngwladol yn Llundain fel rhan o’i gwobr.
Yn ôl Patrick Corrigan, o Amnest Rhyngwladol Cymru oedd yn siarad o faes yr Eisteddfod: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at gefnogi cymaint o bobl ifanc i ddathlu eu rhyddid i fynegi barn, rhyddid gaiff ei wadu i filiynau o bobl ledled y byd. Bydd ein gwaith yn parhau dros y flwyddyn nesaf wrth i ni baratoi adnoddau iawnderau dynol yn y Gymraeg ac yn Saesneg, i’w defnyddio yn ysgolion Cymru.”
Mae Amnest Rhyngwladol yn sefydliad ar gyfer aelodau a’i brif bwrpas yw ymgyrchu dros iawnderau dynol. Mae’n barod i amddiffyn pobl lle nad oes cyfiawnder, tegwch, rhyddid na gwirionedd. Mae gan y sefydliad swyddfa yng Nghaerdydd.
Yn ôl Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: “Rydyn ni’n falch bod sefydliad fel Amnest yn cydweithio â ni, gan gynnig cyfle i bobl ifanc ddysgu mwy am eu gwaith. Diolch iddynt am eu cefnogaeth, a diolch hefyd i’r beirniad am ei waith. Rydyn ni’n edrych ymlaen i glywed y cystadleuwyr yn mynegi barn, dadlau a pherswadio’r gynulleidfa o’i safbwyntiau yn y rownd derfynol heddiw.”