Press releases
AMNEST YN LANSIO PECYN DWYIEITHOG NEWYDD AR GYFER HELPU POBL IFANC I DRAFOD Y GOSB EITHAF
Heddiw (dydd Llun), lansiodd Amnest Rhyngwladol ddeunydd dwyieithog newydd rhad ac am ddim i helpu pobl ifanc Cymru drafod effaith y gosb eithaf. Yn ystod y digwyddiad yn Ysgol Uwchradd Cathays, roedd y bobl ifanc yn trefnu protest a thrafododd yr ymgyrchydd hawliau dynol, Julie Morgan, yr angen am barhau i ymgyrchu dros ei ddiddymu’n fyd-eang.
Mae’r pecyn ysgolion yn cynnwys sgript ar gyfer drama fer, cyflwyniadau a chynlluniau gwersi i ysbrydoli pobl ifanc - 14 oed a throsodd - i ddysgu mwy am ddigwyddiadau go iawn ar draws y byd a’r modd y mae pobl go iawn yn wynebu realaeth y gosb eithaf. Mae hefyd yn cynnwys ffilmiau’n dangos Jeremy Irons, y Chwaer Helen Prejean a Mirza Hussain, Prydeiniwr oedd yn treulio 18 mlynedd ar res yr angau ym Mhakistan.
Mae’r pecyn (gellir ei lawr lwytho) yn cynnwys awgrymiadau ar sut gall pobl ifanc weithredu a sut gallan nhw ymuno ag eraill o gwmpas y byd ar 10 Rhagfyr, Diwrnod Byd-eang yn erbyn y Gosb Eithaf, i annog mwy o wledydd i ddiddymu’r gosb greulon hon. Mae’r gweithredu’n amserol gan fod Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn dechrau trafod moratoriwm byd-eang ar y defnydd o’r gosb eithaf.
Roedd y lansiad yn Ysgol Uwchradd Cathays yn cynnwys gweithredu gan ddisgyblion ar ran Troy Davies, sydd ar hyn o bryd yn wynebu’r gosb eithaf yn yr UD am drosedd lle nad oes unrhyw dystiolaeth uniongyrchol.
Dywedodd Cathy Owens, Cyfarwyddwr Rhaglenni Amnest Rhyngwladol:
'Mae rhai o’r pynciau y byddwn ni’n delio â nhw bob dydd yn hynod o heriol a gall trafod y gosb eithaf fod yn bwnc hynod o anodd. Lluniwyd y pecyn hwn fel bod athrawon a phobl ifanc yn gallu delio â’r pwnc astrus hwn, gan ystyried y dadleuon dros ac yn erbyn a’r hyn y gall pobl ifanc ei wneud i helpu eraill o gwmpas y byd sy’n wynebu’r broses greulon ac annynol hon.'
Dywedodd Julie Morgan:
'Mae achosion proffil uchel diweddar, fel Sakineh Ashtiani yn Iran a Teresa Lewis yn yr UD, yn ein hatgoffa bod cynifer o unigolion mewn perygl o gael eu dienyddio o gwmpas y Byd. Yn aml, mae stori ofnadwy y tu ôl i bob achos, yn aml heb lawer o gyfle i sicrhau cyfiawnder ac yn cael ei wneud yn waeth gan dlodi a chamwahaniaethu. Mae’n hwyr glas i ni edrych eto ar roi pwysau ar y gymuned ryngwladol i gael moratoriwm byd-eang.'
Dywedodd Rod Phillips, y Pennaeth:
'Rydw i wrth fy modd bod y bobl ifanc yn ein hysgol yn manteisio ar y cyfle i ddysgu am ddigwyddiadau a phroblemau y tu allan i’w profiadau eu hunain a’u bod yn cymryd cyfrifoldeb dros gymryd rhan mewn gwaith Hawliau Dynol a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar fywydau eraill. Rydw i’n falch iawn o’r Grŵp Ieuenctid Amnest Rhyngwladol yn ein hysgol a’r gwaith mae’n ei wneud. Roeddem yn hynod o falch o allu lansio pecyn adnoddau’r Gosb Eithaf yn ein hysgol.'