Skip to main content
Amnesty International UK
Log in

Cymru: Amnest yn cyhuddo Yahoo!, Microsoft a Google o ragrith yn Tsieina ac mae’n annog defnyddwyr Cymru i weithredu yn eu herbyn

Mae Amnest Rhyngwladol Cymru wedi annog defnyddwyr Yahoo!, Microsoft a Google i ddefnyddio eu pŵer fel defnyddwyr i helpu i derfynu’r cyfranogiad corfforaethol wrth atal y rhyngrwyd yn Tsieina. Daeth yr alwad i weithredu - rhan o ymgyrch newydd i gael rhyddid i lefaru ar linell o’r enw irrepressible.info - wrth i Amnest lansio adroddiad newydd yn cyhuddo cwmnïau o ragrith drwy siarad am ryddid i lefaru a chael mynediad i wybodaeth tra’n ei atal er mwyn cael mynediad i farchnad broffidiol Tsieina.

Mae’r adroddiad yn galw ar y cwmnïau i gyfaddef ac i ddatgelu pa eiriau maen nhw wedi’u gwahardd o 'blog' neu eu hidlo allan o chwiliadau’r we yn Tsieina, a chyhoeddi’r holl drefniadau gydag awdurdodau Tsieina. Mae Amnest hefyd yn gofyn i Yahoo!, Microsoft a Google alw’n gyhoeddus am ryddhau’r ‘seiber-anghytunwyr’ a garcharwyd am fynegi barn heddychlon ar linell ac i sefyll i fyny i awdurdodau Tsieina drwy ddisbyddu’r holl apeliadau cyfreithiol cyn cydymffurfio gyda’r gofynion sy’n wrthwynebus i hawliau dynol.

Mae Amnest Rhyngwladol Cymru yn galw ar ddefnyddwyr Yahoo!, Microsoft a Google yng Nghymru i e-bostio’r cwmnïau’n uniongyrchol a defnyddio eu ffurflenni ymateb ar linell i ofyn am newid yn y modd y maen nhw’n gweithredu yn Tsieina.

Dywed Cyfarwyddwraig Rhaglenni Amnest Rhyngwladol Cymru, Cathy Owens:

"Mae hyn yn rhywbeth y gall pobl Cymru wneud rhywbeth ynglŷn ag ef. Mae nifer ohonom yn gwsmeriaid i Yahoo!, Microsoft a Google, sydd wedi hyrwyddo neu wedi cyd-gynllwyno yn sensoriaeth y rhyngrwyd yn Tsieina. Maen nhw’n honni eu bod yn ufuddhau i ddeddfau lleol pan, mewn gwirionedd, maen nhw’n ildio i bwysau gwleidyddol. Mae cwmnïau o’r fath yn honni eu bod yn rhoi cwsmeriaid yn gyntaf. Nid ydyn nhw’n gwrando ar eu cwsmeriaid yn Tsieina, felly rydyn ni’n awyddus iddyn nhw glywed gan gwsmeriaid yma yng Nghymru. Os bydd digon o bobl yn dweud wrthyn nhw nad ydyn nhw’n hapus gyda’r hyn y maen nhw’n ei wneud yn Tsieina, yna gobeithio y bydd hyn yn gwneud iddyn nhw feddwl eto."

"Mae’r ddadl bod y cwmnïau’n ‘dod â’r rhyngrwyd i Tsieina' yn annilys: mae’r rhyngrwyd wedi bod yn Tsieina am ddeng mlynedd. Yr unig beth y mae’r cwmnïau hyn yn ceisio ei wneud yw cael darn helaeth a chynyddol o’r farchnad. Ac mae hyn ar gost aruthrol: mae eu gweithgareddau’n cynorthwyo ac yn annog sensoriaeth y llywodraeth yn hytrach na’i herio."

Mae adroddiad newydd Amnesty yn gwrthgyferbynnu’r datganiadau cyhoeddus a rhai Yahoo!, Microsoft a Google, ac mae’r cwmni’n gwerthfawrogi eu bod yn priodi gyda’u gweithrediadau yn Tsieina:

Mae Yahoo! drwy ei bartner yn Tsieina, Alibaba, wedi rhoi gwybodaeth breifat a chyfrinachol i’r awdurdodau am ei ddefnyddwyr. Defnyddiwyd y wybodaeth hon i erlyn a charcharu dau newyddiadurwr - Shi Tao a Li Zhi -, y ddau wedi’u mabwysiadu gan Amnest Rhyngwladol fel Carcharorion Cydwybod. Hefyd, mae’r cwmni’n wirfoddol wedi arwyddo ‘Addewid Cyhoeddus ar Hunan-ddisgyblaeth ar gyfer Diwydiant Rhyngrwyd Tsieina’ - gan gytuno i sensoriaeth ac atal mynediad i wybodaeth.

Roedd Microsoft yn cau ‘blog’ ymchwilydd y New York Times Zhao Jing gan ddweud ei fod ar gais y llywodraeth. Mae’r cwmni hefyd wedi cyfaddef ei fod yn ymateb i gyfarwyddiadau gan lywodraeth Tsieina wrth gyfyngu defnyddwyr MSN Spaces rhag defnyddio rhai termau.

Mae Google wedi lansio fersiwn wedi’i sensro o’i beiriant chwilio rhyngwladol yn Tsieina.

Mae Amnest yn galw ar y cwmnïau i fod yn agored am eu trafodion gydag awdurdodau Tsieina gan ddatgelu manylion cytundebau a threfniadau hidlo’r we. Mae’n gofyn i’r cwmnïau fynegi’n gyhoeddus eu gwrthwynebiad egwyddorol i weithredu ceisiadau sy’n wfftio safonau hawliau dynol a galw am ryddhau ‘seiber-anghytunwyr’. Hefyd, mae’r sefydliad yn galw ar gwmnïau i ddisbyddu’r holl brosesau a’r apeliadau cyfreithiol cyn cydymffurfio gyda cheisiadau’r llywodraeth sydd ag oblygiadau hawliau dynol fel darparu manylion cyfrifon e-byst.

Anfonodd y newyddiadurwr Shi Tao e-bost at wefan dramor yn 2004 yn disgrifio cyfarwyddiadau llywodraeth Tsieina ar sut y dylai ei bapur newydd sộn am y cyrch ar 15fed pen blwydd Sgwâr Tiananmen. Roedd Yahoo yn helpu awdurdodau Tsieina i adnabod Shi drwy ei gyfrif e-bost. Erbyn hyn, mae yn y carchar yn Tsieina am 10 mlynedd. Mae Amnest Rhyngwladol yn galw am ei ryddhau ar fyrder.

Mae gwefan ymgyrch newydd Amnest Rhyngwladol irrepressible.info yn galluogi pobl i wrthwynebu gormes rhyngrwyd mewn gwledydd ar draws y byd drwy arwyddo llw syml sy’n galw ar bob llywodraeth a chwmni i barchu rhyddid y rhyngrwyd. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno i gyfarfod o’r CU ar ddyfodol y rhyngrwyd ym mis Tachwedd 2006. Hyd yn hyn, mae dros 23,000 o bobl wedi arwyddo’r llw a thros 6,000 wedi gweithredu ar ran y newyddiadurwr Shi Tao yn y carchar.

Nid yw ymgyrch Amnest yn erbyn gormes y rhyngrwyd wedi’i gyfyngu i Tsieina. Mae hidlo technoleg yn digwydd hefyd mewn gwledydd fel Iran oedd yn ddiweddar yn cyhoeddi y byddai’n gallu monitro defnydd pob dinesydd o’r we; ac mae Amnest yn ymgyrchu ar ran defnyddwyr y we sydd mewn carchar yn Tunisia a Fietnam. Yn ddiweddar, roedd y sefydliad yn amlygu achos Sayed Ahmad Sayed Sigarchi, ‘blogiwr’ o Iran y dywedir iddo gael ei fflangellu 30 gwaith yng ngharchar Tabriz ym mis Hydref y llynedd pan oedd wedi’i ddedfrydu i garchar am bedwar mis. Cafodd ei restio am ‘blog’ oedd wedi'i ddechrau yn 2003 a chafodd ei euogfarnu o "achosi sarhad ar yr Arweinydd a'r uwch swyddogion" a "phropaganda yn erbyn y system".

I gael mwy o wybodaeth, gan gynnwys copi o adroddiad Amnest, gallwch gysylltu â Swyddfa Amnest Rhyngwladol Cymru

View latest press releases