Skip to main content
Amnesty International UK
Log in

Cymru: A.S. Caerffili i godi materion hawliau dynol yn Nigeria

Bydd Jeff Cuthbert A.C., Aelod y Cynulliad Cenedlaethol dros Gaerffili, yn ymweld â Nigeria ar gyfer Cynhadledd Seneddol Rhif 52 y Gymanwlad ac mae wedi cytuno i drafod gyda’i gymheiriaid seneddol materion difrifol sy’n achosi pryder i Amnest Rhyngwladol.

Bydd Jeff yn codi mater trais yn erbyn merched ac yn galw ar aelod-wledydd i weithredu ar fyrder i atal y drosedd ofnadwy a holl-dreiddiol hon.

Dywedodd Jeff Cuthbert A.C.:

''Mae trais yn erbyn merched yn graith ar wyneb y byd. Mae’r achosion eang parhaus o drais yn erbyn merched yn dditiad damniol ar nifer o wledydd. Mae angen camau cynhwysfawr, cadarn yn awr i atal pob math o drais yn erbyn merched. Mae’r gynhadledd hon yn gyfle delfrydol i genhedloedd ddod at ei gilydd a dangos cynnydd.

Ni all Nigeria, fel y wlad sy’n lletya’r gynhadledd, ddianc rhag y sylw. Mae Amnest Rhyngwladol yn brasamcanu bod tua dwy ran o dair o ferched mewn rhai grwpiau yn Nhalaith Lagos yn Nigeria yn dioddef gan drais yn y cartref. Mae deddfau ac arferion gwahaniaethol, agweddau difater gan yr heddlu, system gyfiawnder anodd cael ati sy’n cyfrannu at drais yn erbyn merched, yn cael eu dioddef yn gyffredinol. Rhaid i Nigeria, fel nifer o wledydd eraill, gydnabod bod trais yn erbyn merched yn broblem i ni i gyd.

Yr ateb yw ymagwedd deublyg o ddeddf gynhwysfawr yn erbyn trais domestig ynghyd ag ymrwymiad ar ran llywodraethau i ddyrannu digon o adnoddau i alluogi’r heddlu i wneud eu gwaith ac i ariannu rhaglenni addysgol sy’n hysbysu pawb bod trais o’r fath yn anghyfreithiol.

Rydw i’n falch o allu uno gydag Amnest Rhyngwladol i alw am roi terfyn i drais yn erbyn merched.''

Dywedodd Cathy Owens, Rheolwraig Rhaglenni Amnest Rhyngwladol Cymru:

“Er bod llawer o waith yn angen ei wneud o hyd yma yng Nghymru, gall ein deddfwyr helpu eraill i ddysgu o’r ymagwedd a gymerwyd yng Nghymru i ddelio â thrais domestig. Ond, mae merched Nigeria yn dioddef gan fathau eraill o drais annerbyniol nad yw’r llywodraeth yn rhoi terfyn arno. Mae llurguniad cenhedlol a diffyg cosb am drais a throseddau rhyw difrifol eraill, yn realaeth i ferched Nigeria.

"Mae gan Jeff gyfle gwych i godi’r materion hyn ar ran aelodau Amnest Rhyngwladol yng Nghymru ac edrychwn ymlaen at glywed yr hyn fydd gan ei gymheiriaid yn Nigeria i’w ddweud.”

Gwybodaeth i’r Cyfryngau:

Amnest Rhyngwladol Cymru: Cathy Owens 02920 375610, 07738 718638
Gellir cael cyfweliadau gyda Jeff Cuthbert: cysylltwch a Leighton Jenkins ar 02920 898 027, 07737628932


View latest press releases