Press releases
Cymru: Mae cariad yn hawl dynol – mae Amnest Cymru a Chris Bryant A.S. yn amddiffyn hawliau yma a thramor
Bydd Amnest Rhyngwladol Cymru’n cymryd rhan ym Mardi Gras Caerdydd heddiw (2 Medi) gan ymgyrchu dros y rhai gartref a thramor y mae eu hawliau dynol o dan fygythiad. Byddan nhw hefyd yn gofyn i bobl ymuno ag ymgyrch Amnest i gael rhyddid a chydraddoldeb i bobl hoyw.
Mae gan 80 gwlad ddeddfau sy’n ystyried bod perthynas un rhyw yn drosedd. Yn Afghanistan, Swdan, Iran, Saudi Arabia a Yemen gellir dienyddio pobl sydd wedi’u herlyn am ryw gyfunrywiol. Mae pobl hoyw wedi dianc o wledydd fel Uganda a Jamaica lle mae heddlu a thrais yn erbyn pobl yn y gymuned mor gyffredin fel ei fod yn fygythiad difrifol i fywyd. Yn yr Aifft, mae dynion hoyw wedi cael eu casglu at ei gilydd a’u carcharu am fynd i glwb hoywon.
Yma, yn Ewrop, yng Ngwlad Pŵyl, Rwsia a Latfia, mae cynghorau lleol yn ddiweddar wedi ceisio rhwystro gorymdeithiau Gay Pride. Mae gwleidyddion lleol ac arweinwyr dinesig yn y gwledydd hynny wedi gwneud sylwadau homoffobaidd ac wedi galw gorymdeithiau cyfunrywiol a ‘Gay Pride’ yn “fygythiad i foesoldeb”.
Dywedodd yr A.S. Chris Bryant
"Yn aml iawn, byddwn yn cymryd ein hawliau a’n breintiau’n ganiataol yn y wlad hon – yn arbennig fel dynion hoyw a lesbiaid. Mae llawer gormod o wledydd y byd o hyd lle mae pobl nid yn unig yn cael eu bwlio a’u dilorni am fod yn hoyw, ond yn cael eu harteithio a’u dienyddio. Yn benodol, bum yn ymladd am i Iran beidio â dienyddio dynion ifanc am eu rhywioldeb.”
Dywedodd Cathy Owens, Cyfarwyddwraig Rhaglenni Amnest Rhyngwladol Cymru:
“Yr hyn yr ydym wedi’i weld yn Amnest yw nad yw pobl hoyw ar draws y byd yn eistedd yn ôl ac yn caniatáu i’r math hwn o ragrith a chamwahaniaethu ddigwydd. Yn Nwyrain Ewrop, roedd pobl yn herio’r rhwystrau ac yn gorymdeithio beth bynnag, er eu bod yn wynebu ymosodiadau gan labystiau oedd yn cael eu hannog gan wleidyddion lleol. Yn y Dwyrain Canol ac mewn sawl man yn Affrica ac Asia, mae pobl hoyw’n dal i drefnu eu hunain mewn grwpiau, weithiau’n ddirgel ac weithiau’n agored.
“Dyna pam ei bod yn bwysig i ni ddefnyddio ein rhyddid a dangos undod gyda hwy. Mae deddf hawliau dynol rhyngwladol yn gwahardd camwahaniaethu yn erbyn pobl ar sail eu rhywioldeb a rhaid i ni orfodi mwy o lywodraethau i ddeall hyn. Rydym wedi dod ymhell yn y DU ond ni allwn fod yn hunan-foddog, yn arbennig pan mae trydedd ran o’r gymuned hoyw yng Nghymru wedi dioddef gan ryw fath o drais neu fwlio.”
“Mae’n gwneud gwahaniaeth pan fydd pobl yn dod at ei gilydd i alw am ryddid. Rydym yn edrych ymlaen at y Mardi Gras yng Nghaerdydd ac at y diwrnod pan fydd pobl hoyw ar draws y byd yn gallu dod allan ac yn falch o hynny.”
Gellir cael mwy o wybodaeth am ymgyrchoedd Amnest Rhyngwladol dros gydraddoldeb i lesbiaid, dynion hoyw, pobl deurywiol a thrawsrywiol ar: LGBT Network