Press releases
Cymru: Rhown Derfyn ar Drais
A hithau ond yn 20 oed, fe ddaethpwyd â merch o Lithuania i Gaerdydd a’i gorfodi i fod yn butain yn nhri o buteindai’r ddinas; fe'i prynwyd am £5,000. Wedi iddi gael ei chludo i Gaerdydd gan grŵp o draffigwyr rhyw yn gynnar yn 2005, fe gurwyd y ferch (sydd eto heb ei henwi), gan y grŵp - a'i bygwth y byddai’n cael ei lladd pe bai'n ceisio dianc. Tra bod un aelod o’r grŵp wedi cyfaddef i’r drosedd ac un arall wedi ei gael yn euog wedi achos yn Llys y Goron, Caerdydd, mae hanes dirdynnol y ferch ond yn enghraifft arall o’r trais yn erbyn menywod sy’n digwydd bob dydd ar draws y wlad a’r byd. Fe ddangosodd arolwg diweddar gan Amnest Rhyngwladol fod o leiaf un fenyw ymhob tair wedi cael ei churo, ei gorfodi i gael rhyw neu ei cham-drin fel arall yn ystod ei bywyd - fel arfer gan aelod o’i theulu ei hun neu rywun mae’n ei adnabod. Wrth geisio dileu’r ystadegau hyn, mae Amnest wedi trefnu ymgyrch 16 diwrnod i atal trais yn erbyn menywod. Bydd yr ymgyrch yn rhedeg o Dachwedd 25 hyd at ddiwrnod hawliau dynol ar Ragfyr 10. Bydd yn tynnu sylw at y gwahanol ffurfiau ar drais yn erbyn menywod ledled y byd.
Trais yn y Cartref
Unwaith eto, fe fu trais yn y cartref yn y penawdau yn ystod mis Tachwedd gyda dedfrydu Paul Dyson am lofruddio’i gariad, Joanne Nelson. Roedd gan Dyson, 31, hanes o drais tuag at fenywod ac fe dagodd Joanne wedi dadl am lwytho’r peiriant golchi ar noswyl San Ffolant eleni. Wedi iddo bledio’n ddagreuol ar i Joanne ddod adref, fe gyfaddefodd, yn y pen draw, iddo ei llofruddio. Roedd Joanne yn 22 pan fu farw. Tra bo cyfraddau trais yn erbyn dynion ar gynnydd, fe ddangosodd astudiaeth fyd-eang gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a ryddhawyd ym mis Tachwedd, fod menyw yn cael ei cham-drin yn y cartref bob 18 eiliad. Meddai cydlynydd yr astudiaeth, Dr Claudia Garcia Moreno: “Gellir atal trais yn y cartref ac mae angen i lywodraethau a chymunedau weithredu er mwyn ymladd yn erbyn y broblem eang hon - problem iechyd cyhoeddus. “Bydd WHO yn parhau i godi ymwybyddiaeth am drais a’r rôl bwysig y gall iechyd cyhoeddus ei chwarae er mwyn mynd i’r afael â’i achosion a’i ganlyniadau. Ar y lefel fydol, mae angen stopio’r trais rhag digwydd yn y lle cyntaf, ac i ddarparu cymorth a chefnogaeth i fenywod sydd mewn perthnasau treisgar.” Yng Nghymru, tra bo trais yn y cartref yn dal i fod yn broblem, gyda nifer sylweddol o fenywod o dan 25 yn dioddef drwy law eu partner. “Ers sefydlu’r Llinell Gymorth Trais yn y Cartref, mae 82% o’r menywod sydd wedi cysylltu â ni wedi bod rhwng 18 a 24 oed,” datgelodd Angharad Jones, Swyddog Cyfathrebu Cymorth i Fenywod Cymru. “Hoffwn bwysleisio i fenywod yn y grŵp oedran hwn nad ydych ar eich pen eich hun a bod cefnogaeth ar gael.” Yn rhyngwladol, mae’r cartref yn dal i fod yn arena i drais, a menywod yn destun priodas drwy orfodaeth, trais o fewn y teulu a lladd "er anrhydedd". Yn 2004, fe amcangyfrifodd Amnest Rhyngwladol fod hyd at hanner y menywod sy’n byw yn Nhwrci yn destun trais corfforol o fewn eu teuluoedd eu hunain, ystadegyn y mae grwpiau menywod o fewn y wlad am ei droi o gwmpas. “Yn gyffredinol, byw mewn ofn y byddwn. Ofn ein tadau, ein brodyr a’n gwŷr”, cyfaddefodd Nebahat Akkoç, sefydlydd Canolfan Menywod KAMER, sy’n gweithio yn erbyn trais yn y teulu yn Nhwrci. “O hyn allan, dyn ni ddim eisiau cael ein cyfnewid. Dyn ni ddim am briodi rhywun nad ydyn ni wedi gweld ei wyneb. Dyn ni ddim am gael ein gwneud yn anrhegion. Dyn ni ddim eisiau aros heb addysg Dyn ni ddim am fyw mewn ofn parhaus o gael ein cosbi heb reswm digonol.”
Treisio
Agwedd arall ar drais a welwyd yn y penawdau Prydeinig ym mis Tachwedd oedd Treisio. Fe ganfu arolwg gan ICM – cwmni ymchwil farchnad – i Amnest Rhyngwladol, fod traean o bobl o’r farn bod pobl yn credu os yw menyw yn fflyrtian, mae’n rhannol neu’n gwbl gyfrifol am gael ei threisio. Roedd mwy na chwarter y rheini a arolygwyd yn credu bo menyw yn gyfrifol mewn modd tebyg pe bai’n gwisgo dillad dadlennol, ac roedd hyn yn dangos bod agweddau dwfn tuag at dreisio yn dal i fod ar led yn y gymdeithas sydd ohoni ac mae hynny’n peri gofid. Yn ystod wythnos rhyddhau’r arolwg, fe ddangoswyd y canfyddiadau mewn llys yng Nghymru. Fe wnaeth achos treisio menyw 20 oed o Brifysgol Aberystwyth gwympo yn Llys yr Ynadon Abertawe am fod y barnwr, Mr Ustus Roderick Evans, hawlio fod “cydsyniad meddw yn dal i fod yn gydsyniad”. Fe ddaeth datganiad Mr Evans wedi i’r fenyw hawlio iddi ddrifftio i mewn ac allan o ymwybyddiaeth yn ystod y digwyddiad – cyflwr, fel y’i diffinnir gan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003, lle na fyddai modd i berson gydsynio. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi gofyn am adroddiad llawn i’r achos – ac mae grwpiau hawliau menywod ac ymgyrchwyr wedi adweithio’n grac i'r dyfarniad. “Mae sefyllfaoedd yn bod lle y bydd rhywun yn feddw ac yn medru rhoi cydsyniad" noda Joanna Lovett, swyddog ymchwil yn Uned Astudiaethau Cam-drin Plant a Menywod Prifysgol Fetropolitanaidd Llundain. “Fodd bynnag, mae’r dyfarniad yn ensynio bod modd i berson gydsynio mewn unrhyw gyflwr o feddwdod er bod y Ddeddf Troseddau Rhywiol yn dweud bod yn rhaid i bobl fod â’r rhyddid gallu i’w roi. O’r hyn y gwn am yr achos hwn, nid oedd gan y ferch mo’r gallu hwn.” Ar raddfa ryngwladol, mae treisio yn dal i gael ei ddefnyddio fel offeryn gwrthdaro. Fel arfer, bydd dwy ochr mewn gwrthdaro yn treisio, a bydd yn ffurf ar boenydio sy’n seiliedig ar gender mewn gwrthdaro ledled y byd. Mae treisio a llurgunio rhywiol yn un o gymynnau’r gwrthdaro parhaus yn rhanbarth Darfur, Sudan. Gan fod y ddwy weithred o drais yn dabŵ cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol yn y rhanbarth, fydd dim sôn am ran fwyaf y digwyddiadau. Mae llawer o fenywod yn ofni cael eu troi o’u teuluoedd a’u cymunedau: “Byddai pump i chwe dyn yn ein treisio, y naill ar ôl y llall, am oriau yn ystod chwe diwrnod, bob nos. Allai fy ngŵr ddim fy maddau. Wedi hyn, fe wnaeth e fy ngwadu,” - atgof un a oroesodd. Eto, nid ymosodiadau rhywiol yw’r unig ffurf ar drais yn erbyn menywod mewn gwledydd sydd wedi difrodi gan ryfel. Mae llurgunio, herwgipio a llofruddio i gyd yn ffurfiau ar drais sydd wedi eu defnyddio yn erbyn menywod mewn rhyfeloedd ledled y byd. Fel y mae’r Cenhedloedd Unedig yn ei bwysleisio, Menywod a phlant sy’n dioddef gwaethaf mewn gwrthdaro treisgar. “Mae mân arfau ac arfau ysgafn wedi bod yn brif neu’n unig offer trais ymron pob un gwrthdaro mae’r Cenhedloedd Unedig wedi delio â nhw,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Kofi Annan. “Yn nwylo milwyr afreolaidd, prin eu parch i gyfraith ryngwladol a dyngarol, mae’r arfau hyn wedi cymryd baich trwm ar fywydau dynol gyda menywod a phlant yn cyfri am bron i 80% o’r rheini sydd wedi eu hanafu”
Trais yn erbyn menywod – y dyfodol
Tra nad oes amheuaeth bod trais yn erbyn menywod, yn y rhan fwyaf o achosion, wedi ei berfformio gan leiafrif o ddynion - a bod dynion hefyd yn destun trais gan gynnwys treisio, trais yn y cartref ac ecsbloetio rhywiol - ni all llygaid y byd aros ar gau i’r mathau lu o drais y mae menywod yn eu dioddef, yn y DU a ledled y byd. “Mae’r ffaith y bydd un ymhob pedair menyw yn y DU yn destun trais yn y cartref ar ryw adeg yn eu bywyd yn realiti ysgytwol”, ategodd Jess Boydell o Amnest Rhyngwladol Cymru. “Ein gobaith yw y bydd ein hymgyrch yn codi ymwybyddiaeth pobl o ffeithiau mor erchyll, a hefyd yn sicrhau menywod bod y driniaeth hon yn anghywir. Rhaid newid y canfyddiad bod trais yn erbyn menywod, mewn rhyw ffordd, yn dderbyniol – ond hefyd y canfyddiad nad yw mewn gwirionedd yn bodoli. “Mae’n bodoli, ledled y byd, a’r mater pwysig yw bod y fath drais yn mynd ymhellach o dipyn na thrais yn y cartref; mae’n gallu cynnwys llurgunio’r organau cenhedlu, lladd er anrhydedd, traffigo a phoenydio.” A chyda’r materion hyn yn hollbwysig o hyd ym mywydau pobl ledled y byd, mae’n ymddangos mai dim ond drwy addysg, cefnogaeth a galwadau i weithredu y bydd modd dechrau rhoi terfyn ar y math hwn o drais unwaith ac am byth.