Press releases
Cymru: Ydych chi’n meddwl eich bod yn ddyn go iawn?
Mae Amnest Rhyngwladol Cymru a Chymdeithas Brydeinig Gweithwyr Cymdeithasol (Cymru) yn herio ‘dynion go iawn’ o Gymru gyfan i gymryd rhan yn yr ymgyrch i Atal Trais yn erbyn Merched. Bydd y ddwy gymdeithas yn westai i gynhadledd newydd o’i bath ‘Cynnwys Dynion’ sy’n cynnwys siaradwyr gwadd enwog fel Michael Kaufman, crëwr yr Ymgyrch Rhuban Gwyn yng Nghanada a Monira Rahman, o Sefydliad Goroeswyr Asid, Bangladesh. Cynhelir y gynhadledd yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd ar 5 Ebrill a disgwylir y bydd galw mawr am le yn gyflym.
Dywedodd Eleanor White, Cyfarwyddwraig Rhaglenni Amnest Rhyngwladol Cymru: 'Mae hyn y tro cyntaf yng Nghymru a gobeithiwn y bydd yn ddechrau i newid agweddau. Roedd Amnest yn cynnal ymchwil oedd yn dangos bod llawer o ddynion, yn arbennig yn y grŵp oed 16 - 35, yn casáu’r syniad o drais yn erbyn merched ond yn teimlo’n ddi-bŵer i’w atal. Mae’r gynhadledd yn mynd i ffurfio Siarter Gweithredu fydd yn gallu hysbysu polisi ac arfer y dyfodol yn y maes hwn ar draws gwahanol sectorau ac ym mhob cymuned. Hefyd, rydym am ddangos i weddill y byd bod llawer o ddynion yng Nghymru sy’n barod i sefyll i fyny a dweud na fyddan nhw’n dioddef trais yn erbyn merched o unrhyw fath.’
Er waethaf degawdau o ymgyrchoedd yn erbyn trais yn erbyn merched, mae’r ystadegau’n dal i fod yn ofnadwy. Mae dau berson yng Nghymru a Lloegr bob wythnos yn cael eu lladd gan gymar neu gyn gymar a bydd cymaint ag un rhan o dair o’r holl ferched yn dioddef gan drais ar ryw adeg yn ystod eu bywydau. Cred Amnest Rhyngwladol Cymru a Chymdeithas Brydeinig Gweithwyr Cymdeithasol (Cymru) y gall newid parhaol ddigwydd os bydd dynion a merched yn ceisio atal trais yn erbyn merched.
Dywedodd Penny Lloyd Cymdeithas Brydeinig Gweithwyr Cymdeithasol: “Disgwyliwn y bydd y gynhadledd hon o ddiddordeb i ddynion o bob rhan o gymdeithas, nid yn unig gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol iechyd, ond pawb sy’n dylanwadu i greu newid yn eu meysydd; aelodau undebau llafur, athrawon, heddlu, ynadon a barnwyr, gwleidyddion, staff adnoddau dynol a phobl sy’n gweithio yn y cyfryngau, diwylliant a chwaraeon. Hefyd, rydym yn awyddus i glywed gan ddynion sy’n byw mewn diwylliant o drais ac sy’n awyddus i wneud newidiadau eu hunain.’
Ynglŷn â'r Ymgyrch i Atal Trais yn Erbyn Menywod