Press releases
Marchnata mewn pobl ar gyfer y fasnach ryw - ymgyrchwyr cymreig yn pwyso ar y prif weingog i weithredu ymhellach
Bydd cynrychiolwyr Amnest Rhyngwladol a Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched Cymru heddiw (18 Mehefin) yn cyflwyno deiseb yn y Senedd i'r Prif Weinidog yn galw am well gwasanaethau ar gyfer y merched a gafodd eu marchnata i mewn i Gymru ar gyfer y fasnach ryw.
Mewn achlysur a noddwyd gan Joyce Watson AC, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Farchnata mewn Merched a Phlant, bydd y Prif Weinidog yn derbyn deiseb ar ffurf portread trawiadol a wnaed allan o gannoedd o gardiau post y ddeiseb.
Arwyddodd aelodau Sefydliad y Merched a chefnogwyr Amnest ledled Cymru'r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu llety diogel a gwasanaethau cymorth i rai cannoedd o ferched a orfodwyd i weithio fel caethweision rhyw yng Nghymru. Dangosodd adroddiad a gyhoeddwyd gan Amnest Rhyngwladol y llynedd bod efallai 150 o ferched ar unrhyw un adeg dan orfodaeth i weithio yn y fasnach ryw.
Mae polisi presennol llywodraeth y DU yn gwneud delio â'r masnachwyr a darparu gwasanaethau cyhoeddus i ddioddefwyr yn anodd, ond mae Confensiwn newydd ar Fasnachu mewn Pobl gan Gyngor Ewrop i'w fabwysiadu gan y DU yn golygu y bydd dioddefwyr yng Nghymru'n derbyn mwy o gefnogaeth. Mae'r ymgyrch yng Nghymru'n canolbwyntio ar oblygiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru tuag at ferched yng Nghrymu a all fod wedi dioddef gan herwgipio, trais, ymosodedd a cham-fanteisio.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru eisoes wedi cymryd rhai camau i ddatblygu cefnogaeth yng Nghymru, a bydd y bobl sy'n mynychu'r digwyddiad yn y Senedd yn cael diweddariad am yr ymgyrch.
Dywedodd Cathy Owens, Cyfarwyddwr Rhaglenni Cymru Amnest Rhyngwladol:
“Mae'r rhai sydd wedi dioddef gan fasnachu mewn pobl yng Nghymru i'w gweld ym mhob rhan o'r wlad – nid yn unig yn y dinasoedd mawrion. Mae llawer o'r merched ifanc yn eu plith yn credu eu bod yn dod yma i weithio yn y diwydiannau twristiaeth neu amaethyddiaeth, ac yna'n canfod eu hunain ar drugaredd meistri gangiau dieflig sy'n dwyn eu trwyddedau teithio, yn eu cloi mewn puteindai ac yn eu gorfodi i gael rhyw gyda deg o ddynion mewn diwrnod.”
“Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru oblygiadau, moesol a chyfreithiol fel ei gilydd, i roi cefnogaeth i'r merched hyn. Eisoes mae peth newyddion da i'w gyhoeddi, ond bydd y ddeiseb hon yn dangos cryfder ein teimladau ni a'n cefnogwyr am greulondeb brwnt masnachu mewn pobl.”
Dywedodd Marylyn Haines Evans, Cadeirydd Ffederasiwn Sefydliad y Merched Cymru:
“Mae ein haelodau ledled Cymru wedi dod at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth o'r pla erchyll hwn. Mae'n arswydus meddwl bod merched yn cael eu cadw fel caethweision rhyw yng Nghymru – yn ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi. Mae'r ddeiseb hon yn dystiolaeth o gryfder teimladau ein haelodau, a gobeithiaf y bydd Gweinidogion Llywodraeth y Cynulliad yn ailddyblu'u hymdrechion i sicrhau bod y merched hyn yn cael mynediad at ofal iechyd ac at gyngor ac y byddwn yn gallu cynnig gobaith iddyn nhw er mwyn iddyn nhw ailadeiladu'u bywydau ar ôl profiad mor drawmatig.”
Dywedodd Joyce Watson AC:
“Sefydlais y Grŵp Trawsbleidiol oherwydd fy mod wedi fy arswydo o glywed am y bywydau erchyll y mae'r trueiniaid hyn a fasnachwyd yn gorfod eu dioddef. Roedd yn ofnadwy meddwl y gallai hyn fod yn digwydd yn fy stryd i, ac yn ein cymunedau ni. Mae’n rhaid i ni barhau i godi'r broblem o fewn y Cynulliad a sicrhau bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwneud ei dyletswydd tuag at y dioddefwyr hyn sydd wedi’u masnachu.”
Dywedodd Cathy Owens, Cyfarwyddwr Rhaglenni Cymru, Amnest Rhyngwladol:
“Byddai pobl Cymru'n arswydo pe bydden nhw'n clywed am raddfa ofn a thrais y mae'r merched hyn yn gorfod ei dioddef, diwrnod ar ôl diwrnod. Mae’n rhaid i ni warchod y caethweision modern hyn.”
Credwn fod tua 150 o ferched yn dioddef fel hyn yng Nghymru, a chynyddu mae'r ffigwr wrth i fasnachu mewn pobl dyfu'n ail ddiwydiant troseddu - y mwyaf ar ôl y fasnach gyffuriau.”
“Bu ein haelodau'n ymgyrchu i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn arwyddo'r Confensiwn, a theimlwn yn hynod o hapus, gan fod hyn wedi digwydd, y gallwn edrych ymlaen at lawer gwell triniaeth i ddioddefwyr masnachu mewn pobl.”